Digwyddiadau

Digwyddiad: Haf o Hwyl - Sialens Adeiladwaith Mawr XL

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
Pob dydd Iau yn ystod yr haf, 12.30 – 3.30pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oed 6+
Archebu lle Galw heibio
Dyma Logo gyda'r geiriau yn nodi bod y prosiect wedi ei arianu gan Lywodraeth Cymru gyda testun du ar gefndir gwyn
Dyma logo Ffederasiwn Amgueddfeudd ac Orielau Celf Cymru, mae'r testun yn goch ar gefndir gwyn. Mae yma hefyd amlinelliad adeilad treftadol ar yr ochr chwith

Ffederasiwn Amgueddfeudd ac Orielau Celf Cymru

Dyma logo gyda'r geiriau Haf o Hwyl, Summer of fun wedi eu hysgrifennu mewn glas ar gefndir hufen, uwchben y tecst mae amlinelliad o dri calon, y cyntaf yn binc gyda'r ail yn goch ar trydydd yn felyn

Galw holl egin beirianwyr!

Defnyddia dy sgiliau dylunio ac adeiladu i gwblhau sialens XL Wales.

Defnyddir cit adeiladu K’NEX ar gyfer pob sialens.

Rho dy feddwl ar waith!

Cyflawnwyd gan XL Wales

 

Iau 28 Gorffennaf - Pontio’r bwlch

Modd o bontio’r bwlch yw pont – gall fynd ar draws dŵr, ffordd, rheilffordd a chwm.

Wyt ti’n gallu dylunio ac adeiladu pont digon hir i bontio’r blwch? Faint o bwysau y gall gymryd cyn iddo dorri?

Iau 4 Awst – Tŵr Talaf

Dylunio ac adeiladu tŵr sy’n o leiaf 1m tal.

Wyt ti’n gallu adeiladu un talach na’ ti?

A fydd yn pasio’r prawf siglo ac aros yn unionsyth?

Iau 11 Awst – Olwyn Fawr/Cylchfan

Gallu di ddylunio ac adeiladu olwyn fawr symudol neu gylchfan? Wyt ti’n gallu symud ef heb dy gefnogaeth?

Gallu di ychwanegu seddi hefyd? Os wyt wedi gwneud olwyn fawr cofia sicrhau nad yw’n wyneb i waered!

Iau 18 Aug - Castell

Dylunio ac adeiladu castell gyda phont godi weithiol.

Beth arall gallu di ychwanegu? A bydd ganddo dŵr neu fylchfuriau?

Gallu di beiriannu porthcwlis gweithiol yn well?

Iau 25 Aug - Hofrennydd

Gallu di ddylunio ac adeiladu hofrennydd?

Bydd angen 2 rotor arno sy’n cylchdroi er mwyn iddo hedfan!

Iau 1 Medi - Tren

Profa dy sgiliau peiriannu drwy ddylunio ac adeiladu trên tir.

Gallu di ychwanegu 2 gerbyd ychwanegol iddo fel bod y trên yn cludo llu o deithwyr ar hyd y promenâd?

Mae'r gweithgareddau yma yn cael eu threfnu gan Amgueddfa Cymru a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru fel rhan o fenter Haf o Hwyl, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

 

Cymerwch olwg ar yr holl ddigwyddiadau / gweithgareddau Haf o Hwyl:

Digwyddiadau