Digwyddiadau

Digwyddiad: Her Adeiladu Fawr

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
Pob dydd Iau yn Awst, 12.30 – 3.30pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oed 6+
Archebu lle Galw heibio

Neges i bob peiriannydd bach!

Defnyddiwch eich sgiliau dylunio ac adeiladu i gyflawni heriau XLWales.

Bydd pob her yn defnyddio cit adeiladu K'NEX.

Mae'n amser datrys problemau!

Cyflwynir gan XL Wales

Oed 6+

  • 3 Awst - Cwch a Loc

Dyluniwch ac adeiladwch gwch a loc camlas (sy'n gweithio!) i'r cwch ei ddefnyddio. 

  • 10 Awst - Melin Wynt

Dyluniwch ac adeiladwch felin wynt. Allwch chi wneud i'r hwyliau droi? 

  • 17 Awst - Golff Gwyllt

Mae pawb yn mwynhau gêm o golff gwyllt! Adeiladwch glwb golff K'NEX digon cryf, a dylunio cwrs i brofi'ch sgiliau. ⁠Allwch chi fynd dros, drwy neu o dan y rhwystrau?

  • 24 Awst - Siafft

Dyma broblem o grombil y ddaear! Allwch chi ddefnyddio K'NEX i godi glo o'r pwll i'r wyneb? 

  • 31 Awst - Rocedi

I'r gofod! Dyluniwch ac adeiladwch roced eich hun. Rhaid iddi fod o leiaf 1m o daldra, gyda thrwyn côn ac esgyll.

 

 

Digwyddiadau