Digwyddiadau

Digwyddiad: Haf o Hwyl - Ceir Rasio

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
15, 19, 24, 29–30 Awst a 10 Medi 2022
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Dyma logo gyda'r geiriau Haf o Hwyl, Summer of fun wedi eu hysgrifennu mewn glas ar gefndir hufen, uwchben y tecst mae amlinelliad o dri calon, y cyntaf yn binc gyda'r ail yn goch ar trydydd yn felyn
Dyma logo Ffederasiwn Amgueddfeudd ac Orielau Celf Cymru, mae'r testun yn goch ar gefndir gwyn. Mae yma hefyd amlinelliad adeilad treftadol ar yr ochr chwith

Ffederasiwn Amgueddfeudd ac Orielau Celf Cymru

Dyma Logo gyda'r geiriau yn nodi bod y prosiect wedi ei arianu gan Lywodraeth Cymru gyda testun du ar gefndir gwyn

Galwch draw ar 15, 19, 24,29,30 Awst , 10 Medi, 10:00 – 15:00

Addas i: 11 - 25 Oed. Rhaid i bobl ifanc 16 oed ac iau fod yng nghwmni oedolyn 18 mlwydd oed neu hŷn

 

Cwrs byr, hwyliog ac ymarferol i alluogi pobl ifanc i ymgysylltu â STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) a gwella sgiliau gwaith tîm. Bydd dysgwyr yn gweithio mewn parau i adeiladu ceir rasio gan ddefnyddio cydrannau trydanol syml. Bydd dysgwyr yn dilyn cyfarwyddiadau hawdd i adeiladu eu dyfais, gyda chymorth ein tiwtoriaid Rewise. Yna byddant yn rasio eu ceir yn erbyn y timau eraill. Bydd y cwrs byr hwn yn caniatáu i ddysgwyr weld canlyniadau eu gwaith mewn byr o amser, i wella hyder a chymhelliant. 

Mae'r gweithgareddau yma yn cael eu threfnu gan Amgueddfa Cymru a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru fel rhan o fenter Haf o Hwyl, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

 

Digwyddiadau