Digwyddiadau

Digwyddiad: Noson Cwis Gwyddoniaeth Frawychus

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
31 Hydref 2022, 6.30pm
Pris Oedolion £6.50, plant £6.50
Addasrwydd Teuluoedd 7 + oed

Ymunwch â ni’r Calan Gaeaf hwn am noson o gwestiynau cwis gwahanol am bethau gwyddonol rhyfeddol ac anhygoel.

Dewch â’ch tîm at ei gilydd yn barod i gystadlu gyda rowndiau fydd yn cynnwys synau anifeiliaid, lluniau ac ambell sbesimen rhyfedd o Amgueddfa!

 

Rydym wrth ein bodd mai Lizzie Daly, y biolegydd, darlledwr, gwneuthurwr ffilmiau ac archwiliwr, fydd yn cyflwyno’r digwyddiad hwn a bydd yn cael ei guradu gan dim hanes natur yr amgueddfa. Bydd gwobrau hefyd, a’r cyfan yn digwydd yn harddwch Oriel y Warws – dewch yn llu! 

£6.50pp, ar gael trwy wefan yr Amgueddfa Timau o 6 ar y mwya' Oedran 7+

Cynhelir y sesiwn yma yn Saesneg

 

Ar gyfer rhaglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ewch i Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe - Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk)

Digwyddiadau