Digwyddiad: Gŵyl Amgueddfeydd Cymru Pendronwch y Pos
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Ganwyd nifer o fôr-ladron enwog yng Nghymru, ond heb os nac oni bai, yr enwocaf ohonynt i gyd oedd Barti Ddu.
Mae ein Cenedl yn llawn chwedlau am drysor môr-leidr coll, ac am godau cyfrinachol a mapiau trysor sy’n nodi eu cuddfan. Allwch chi ddatrys posau i dorri'r cod a datgloi cist drysor Barti Ddu?
Gweithgaredd llawn hwyl AM DDIM sy’n addas i blant 8+, fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru. Ariannir yr Ŵyl gan Lywodraeth Cymru.
Yn amodol ar argaeledd.