Digwyddiad:Llygod Bach yr Amgueddfa

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Archebu tocyn

Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ein grwp misol i blant o dan 5 oed.

Dewch i ddarganfod a chwarae gyda chrefftau, caneuon Cymraeg ac amser stori, dyma ffordd hwyliog i ddysgu a chwarae gyda’ch plant. 

AM DDIM i’w fwynhau. 

12 Gorffenaf – Ar lan y mor

9 Awst – Dathlu’r Haf

13 Medi – Dathlu lliwiau 

11 Hydref – Calan Geaf

8 Tachwedd – Tan Gwyllt

13 Rhagfyr – Dathlu’r Nadolig

 

Gyda Cymraeg i Blant, Mudiad Meithrin, Menter Iaith Abertawe a Cyngor Abertawe

CYNNIG NEWYDD - Cinio Llygod Bach yr Amgueddfa

Bwydwch eich llygod bach yn yr amgueddfa ar ol bob sesiwn! 

  • Dewis o frechdan ham neu caws
  • Pecyn o greision
  • Sudd ffrwyth
     

£4 yr un


Rhaid archebu o flaen llaw.

Archebwch eich cinio llygod bach ar yr un pryd ag archebu eich lle ym mhob sesiwn. Nodwch fod y cinio ar gael drwy archebu o flaen llaw yn unig ac ni fydd ar gael i'w brynu yn y caffi ar y diwrnod. 

Gwybodaeth

11 Hydref, 8 Tachwedd a 13 Rhagfyr 2024, 10.15am - 12.15pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Teuluoedd
Archebu lle Galw draw
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

Parcio

Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.

Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Mynediad

Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.

Canllaw Mynediad

Lleoliad

Bwyta, Yfed, siopa

  • Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau