Digwyddiad: Gŵyl Tawe
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Rydym yn gyffrous iawn i gynnal Gŵyl Tawe - gŵyl iaith Gymraeg Abertawe, wedi ei curadu gan Menter Iaith Abertawe.
Yn dilyn blwyddyn gyntaf llwyddiannus yn yr Amgueddfa yn 2023, bydd yr ŵyl eto yn gweld perfformiadau gan lu o artistiaid cyfoes sy’n defnyddio’r iaith Gymraeg mewn ffyrdd cyffrous ac amrywiol.
Ymysg yr enwau a fydd yn perfformio eleni bydd N’famady Kouyaté a HMS Morris.