Digwyddiadau

Digwyddiad: PRIDE Cornel y Siaradwyr: Hanesion Cwiar o Gymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
29 Ebrill 2023, 1 a 2pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Dwy stori’n cael eu hadrodd gan Jane Hoy
 
1pm - John a Penry: stori wir dau Gymro yn Rhufain
⁠Bachgen tlawd o Gonwy oedd John Gibson, a ddaeth yn gerflunydd byd-enwog. ⁠Bachgen tlawd o Ferthyr oedd Penry Williams, a ddaeth yn arlunydd llwyddiannus. Dyma stori eu bywyd gyda’i gilydd yn Rhufain yn y 1840au.
 
2pm - Brenhines y Llyn
“Cadarn yw’r merched caled eu llafurio
Gyda dwrn gallant daro’r dyn sy’n eu tramgwyddo”
Dyma stori ryfeddol Marged ferch Ifan a merch y Gwaith Copr, yn ardal Llanberis oddeutu’r 1780au. Gyda chacennau cri.
 
Gwybodaeth
Jane Hoy a Helen Sandler yw QTW. Maent wedi teithio dros Gymru a Lloegr gyda straeon difyr am gymeriadau cwiar o hanes Cymru. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am Aberration, sefydliad diwylliant a chelfyddydau LHDTC+ yn Aberystwyth. www.aberration.org.uk/queer-tales-from-wales.
 
 

Yn anffodus, oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth, mae PRIDE Abertawe wedi’i symud i Neuadd Brangwyn ar gyfer 2023.

 

Dewch o hyd i ni yng Nghornel yr Amgueddfa.

Digwyddiadau