Digwyddiadau

Digwyddiad: Ffair Werdd

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
18 a 19 Tachwedd 2023, Dydd Sad 10am - 4pm, Dydd Sul 10am - 3pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Popeth ar gyfer Nadolig Gwyrdd – anrhegion, syniadau a chyngor!

 
Bydd y Ffair Werdd yn llawn nwyddau organig, masnach deg, wedi'u hailgylchu neu eu cynhyrchu'n lleol, neu sy'n ystyriol o'r amgylchedd.
 
Bydd rhywbeth at ddant pawb yn y 40 a mwy o stondinau, yn barod i'ch rhoi chi i gyd yn hwyl yr ŵyl.
Mae'r Ffair Werdd wedi bod yn cefnogi cynhyrchwyr a chrefftwyr lleol a moesegol yn Abertawe ers 1983.
 
Mae gwerthwyr yn ffeiriau’r gorffennol wedi cynnig addurniadau Nadolig cartref, cardiau a phrintiau gwreiddiol, gemwaith unigryw, bagiau prydferth, danteithion blasus a llawer mwy!
Cynnwys:
Dydd Sad a Dydd Sul - Book Swap
Dydd Sad- Caffi atgyweirio
Dydd Sad- Dewch i Ganu! 
Dydd Sul- Ffilmiau i'r teulu:
  • 12.30pm The Gruffalo
  • 1.30pm The Gruffalos Child
  • 2.30pm Stickman
 
Cynhelir y Ffair Werdd mewn partneriaeth â Chanolfan yr Amgylchedd, Abertawe.

https://www.environmentcentre.org.uk/green-fair

https://www.facebook.com/GreenFairSwanseahttps://www.facebook.com/GreenFairSwansea


 

Digwyddiadau