Digwyddiadau

Digwyddiad: Gŵyl Ymylol Abertawe - UNDER THE RAGING MOON

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
5 Hydref 2023, 7pm
Pris £3.50
Addasrwydd Oedolion

Drama pedair rhan: noson gyda Dylan Thomas yn Greenwich Village, Efrog Newyd

Ymunwch â ni mewn digwyddiad arbennig ar gyfer Gŵyl Ymylol Abertawe. 

Hydref, 1953. Mae Dylan Thomas, sy’n sâl a'i broblemau personol yn faich arno, ar ei bedwaredd daith i America – y daith dyngedfennol. Wedi'i adael gan ei gariad o Efrog Newydd, mae'n ymlwybro o dafarn i dafarn yn Greenwich Village, lle mae'n cwrdd â phobl anhysbys iddo yn bennaf.  Maen nhw'n cael profiad o'r Dylan direidus a'r Dylan difrifol â'i draed ar y ddaear.

Yn ei ddrama newydd, mae'r bardd a'r dramodydd Cymreig, Peter Thabit Jones, yn ail-fyw oriau olaf bywyd Dylan o'i ddychymyg, wrth i'r bardd ymweld â thafarndai Greenwich Village cyn cael ei ddanfon i Ysbyty St. Vincent. ⁠Mae gan y ddrama wirionedd yn llifo drwyddi, yn ddigrif, teimladwy, a thrasig; mae'n agor y llenni a chanolbwyntio ar oriau gwerthfawr, olaf yr athrylith llenyddol hwn a adawodd ein byd yn 39 oed, a rhoi ail fywyd iddyn nhw.

I archebu lle, ewch i: Gŵyl Ymylol Abertawe 2023

Digwyddiadau