Digwyddiad:Hamza Yassin - Bywyd drwy'r Lens

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Dewch i gael cipolwg ar fyd anifeiliaid gyda'r naturiaethwr, y dyn camera bywyd gwyllt ac enillydd Strictly Come Dancing 2022 Hamza Yassin!

Yn y sgwrs hon, bydd yn rhannu rhai o'i straeon diddorol ei hun o anturiaethau gyda bywyd gwyllt. Bydd sesiwn llofnodi llyfrau cyn y sgwrs.

 
Bywgraffiad Hamza Yassin
Mae Hamza yn byw mewn rhan wledig o arfordir gorllewinol yr Alban, gyda bywyd gwyllt a natur ar garreg ei ddrws.
Mae Hamza yn angerddol am adar ac mae'n adaregydd medrus, a chanddo wybodaeth ragorol am grefft maes a chynefinoedd. Mae Hamza hefyd yn ffotograffydd bywyd gwyllt enwog, cyhoeddedig yn ogystal â thywysydd teithiau bywyd gwyllt. Yn ei amser hamdden, mae Hamza yn cystadlu yn Chwaraeon yr Ucheldiroedd.
Gwaith ar y teledu
Mae Hamza wedi cyflwyno ar lawer o raglenni hynod boblogaidd gan gynnwys:
• The One Show
• Sioeau byw CBeebies Let’s Go For A Walk a Ranger Hamza’s Eco Quest
• Rhaglenni BBC Countryfile ac Animal Park
• Rhaglen ddogfen Channel 4 Scotland: My Life in the Wild (gan gynnwys fel dyn camera), a'r gyfres ddilynol Scotland: Escape to the Wilderness
• Rhaglen ddogfen BBC1 ‘Hamza: Strictly Birds of Prey’
• A chyfres newydd Hamza’s Hidden Wild Isles ar gyfer BBC1 ac iPlayer.
• …Heb sôn am ennill Strictly Come Dancing ar BBC1 yn 2022!
 
Llyfrau
• Be a Birder: The joy of birdwatching and how to get started
• Mae Hamza's Wild World yn llawn ffeithiau difyr a diddorol am anifeiliaid ac yn defnyddio cynllun sy'n ddyslecsig-gyfeillgar, wedi'i greu ar y cyd â Dyslexia Scotland.
• Homeward Bound: The joy of nature and my life outdoors
 
Hyd 45 - 60 munud
 
Sylwer: bydd oedolion a phlant angen tocynnau ar gyfer y sioe hon.
 
Cynnig arbennig - Archebwch 3 neu fwy o ddigwyddiadau lle codir tâl yn eich basged docynnau i arbed 30%!

Gwybodaeth

26 Hydref 2025, 11am
Pris £6.50yp
Addasrwydd Plant hŷn, yn eu harddegau ac oedolion
Mae Hamza Yassin yn sefyll ar ben mynydd, yn erbyn awyr las. Mae'n gwisgo cot hir dal dŵr a throwsusau du, ac yn dal ffon gerdded.
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau