Arddangosfa: Y Diwydiant Gwlân dan Gwmwl Du
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Llun o filwyr gan gynnwys David Emlyn Jones, gwehydd o Dre-fach Felindre a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Golwg ar ymgyrchu taer y diwydiant gwlân am gytundebau gwaith i gadw'r melinau ar agor yn ystod y rhyfel Byd Cyntaf, a defnyddio hunaniaeth Gymraeg fel arf recriwtio. Roedd Corfflu'r Fyddin Gymreig am ddilladu'r fyddin newydd mewn brethyn cartref, Brethyn Llwyd - ond byr fu'r defnydd ohono, ac ni chafodd ei ddefnyddio erioed ar faes y gad.
Arddangosfa deithio o Amgueddfa Wlân Cymru.