Digwyddiadau

DigwyddiadGŵyl Ffilmiau’r 60au

Wedi'i Orffen
78 Hydref, 10.30am-4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Galw heibio

Dewch i ddathlu 50 mlynedd ers Haf Cariad 1967, gyda phenwythnos o ffilmiau sy’n dwyn i gof y cyfnod chwyldroadol hwn.

Bydd yr hanesydd ffilmiau, Anthea Symonds yn rhoi cyflwyniad byr i gyd-destun cymdeithasol a diwylliannol pob ffilm.

Rhaglen:

Dydd Sadwrn:

 10.30am: Sgwrs Mis Hanes Pobl Dduon. Gweithwyr duon, hil ac integreiddio ym Mhrydain y 60au, gyda Abu Bakr Madden ar Shabazz

11.30am–1.30pm: A Taste of Honey (12, 1961) Clasur realaidd o’r 1960au yn seiliedig ar ddrama Shelagh Delaney.

2.30pm–4.30pm: Help (U, 1965) Comedi gerddorol gyda’r Beatles. Sgwrs: Paul Whittaker.

Dydd Sul:

10.30am–12.30pm: Billy Liar (PG, 1963) Stori am fywyd yng ngogledd Lloegr, mewn cyfnod o newid mawr.

1pm–2pm: Rhaglen ddogfen: Paradise Lost - the 60s':Rhoddir sylw i dechnoleg fodern a dyfodol tecach ym Mhrydain.

2.30pm–4.30pm: The Italian Job (U, 1969) Ffilm gomedi am gynllun i ddwyn aur o strydoedd Torino.

Gall y seddi lenwi ar gyfer rhai o’r ffilmiau poblogaidd – cyntaf i’r felin.

Digwyddiadau