Digwyddiadau

Cwrs1950au: Diwedd ymerodraeth, dechrau chwyldro cymdeithasol

Wedi'i Orffen
2, 9, 16, 23, 30 Hydref, 6, 13, 20, 27 Tachwedd a 4 Rhagfyr, 2pm
Pris £30 y pen
Addasrwydd Oedolion
Archebu lle Am fwy o fanylion cysylltwch â chydlynydd y cwrs, Colin James ar 07971 665594.

O’r tlodi wedi’i rhyfel i Ŵyl Prydain, ac o Suez i Elvis, dyma ddegawd o wrthdaro mewn syniadau, a chwyldro ymysg yr ifanc. Roedd y newid hwn yn amlwg yn y celfyddydau, theatr, sinema a diwylliant poblogaidd ledled Ewrop ac America. Cyfle i olrhain hanes degawd oedd yn pontio diwedd yr ymerodraethau mawr a gwawr newydd y 60au.
 

Dewch i ymlacio mewn awyrgylch gyfeillgar sy’n annog trafodaeth a dadl, heb unrhyw sôn am draethodau!

£30 y pen. Am fwy o fanylion cysylltwch â chydlynydd y cwrs, Colin James ar 07971 665594. Bydd y cofrestru’n digwydd ar ddechrau’r dosbarth cyntaf.

Trefnwyd gan y Gymdeithas Hanes, Cangen Abertawe.

Digwyddiadau