Digwyddiad: Cwis Nadoligaidd
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Noson gwis hwyliog a thymhorol. Timau o 6 ar y mwyaf. Tocynnau’n £3.50 y pen.
Dewch at eich gilydd i gystadlu yn y rowndiau cerddoriaeth, gwybodaeth gyffredinol, gwrthrych cudd a chlipiau ffilm! Bydd gwobrau i’w hennill, a’r cwbl yn digwydd yn Oriel Warws – noson i’w chofio!
Pris y tocyn yn cynnwys gwydraid am ddim o win poeth a danteithion ar y bwrdd.
Bar talu ar gael.