Digwyddiadau

DigwyddiadFfilm Nadoligaidd: It’s a Wonderful Life (U, 1946)

17 Rhagfyr 2017, 2pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Ein dangosiad blynyddol o’r glasur hon, gyda chyflwyniad gan yr hanesydd ffilmiau, Anthea Symonds.

Ar noswyl Nadolig, mae George Bailey (James Stewart) yn breuddwydio am gael dianc o’i dre fach i fyd o antur a theithiau, ond mae ei amgylchiadau’n ei rwystro. Gyda sgandal ar y gorwel, ac yntau ar ben ei dennyn, daw angel i’w weld i ddangos iddo beth fyddai bywyd pe na bai ef yn bod.

Dyma glasur Nadoligaidd i godi calon. Llwyddiant Frank Capra yw cydnabod anawsterau a siomedigaethau bywyd wrth danlinellu ei werthoedd pwysicaf sef gwerth ffrindiau a llwyddiant.

Digwyddiadau