Digwyddiadau

DigwyddiadClasur o Ffilm: On the Waterfront (15, 1954)

Wedi'i Orffen
23 Chwefror 2018, 1.30pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oedolion

Caiff clasur o ffilm ei dangos ddydd Gwener olaf pob mis ac mae’n cynnwys cyflwyniad i gyd-destun cymdeithasol a diwylliannol y ffilm.

Marlon Brando sy’n chwarae rhan llwythwr ar y cyrion ar ôl iddo feiddio â herio undeb grymus y docwyr yn Efrog Newydd. Rod Steiger yw ei frawd hŷn, sy’n cael ei dynnu bob ffordd rhwng ei ffyddlondeb at yr undeb a’i gariad at y teulu. Lee J. Cobb yw pennaeth nerthol yr undeb, ac Eva Marie Saint yw testun serch Brando. Enillydd 8 Oscar, gan gynnwys y Ffilm Orau a’r Actor Gorau.

Digwyddiadau