Digwyddiad: Y Dyn Injan

Mae De Cymru yn un o leoliadau treftadaeth mwyngloddio pwysicaf y DU, gyda haearn, copr a glo wrth galon y Cymoedd am ganrifoedd.
Ac yn 2018, gwahoddir y genedl gyfan i ddathlu a chofio’r hanes diwydiannol hwn gydag ymweliad gan y Man Engine eiconig.
Bydd y cawr o löwr yn ymweld ag wyth o leoliadau treftadaeth ddiwydiannol pwysicaf de Cymru am wythnos o ddathliadau rhwng 8 – 12 Ebrill 2018 wedi’i animeiddio gan dîm o ddwsin a rhagor o ‘lowyr’
Mae’r ymweliad â Chymru’n rhan o Forging A Nation 2018 y Man Engine, ble fydd y pyped 11.2m o daldra’n stemio’i ffordd o gwmpas rhai o safleoedd treftadaeth mwyngloddio mwyaf arwyddocaol y DU.
Bydd y daith yn dod i ben ar 12 Ebrill, gydag arddangosfeydd llawn nostalgia yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe a gorymdaith drwy’r ddinas gan orffen yng ’Ngwaith Copr Hafod Morfa gyda’r nos.
Bydd pob math o weithgareddau gwych yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau tra mae'r Dyn Injan o gwmpas.
Wrth i'r Dyn Injan dderbyn ei fwyn copr, bydd cyfle i ddysgu mwy am y metel coch gyda sioe gopr gyffrous, lle bydd cyfle i greu llysnafedd copr a phaentio wynebau.
Bydd y cawr mecanyddol yn ysbrydoliaeth i weithgareddau yn cynnwys robotiaid Lego, creu murlun robotaidd, a phrintio poster.
Bydd ein curaduron yn agor cwpwrdd llawn hynodion copr, ynghyd ag arddangosiad argraffu 3D a dangosiad o ffilm Iron Giant am 11am.
A chofiwch gwblhau ein llwybr orielau sy'n cynnwys wy copr arbennig!
Manylion: https://www.themanengine.co.uk/cymru
RHAGLEN
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
11am – 1.15pm
Am ddim
Mae’r stori’n dechrau gyda The Man Engine yn casglu’r mwyn copr o’r dociau mewn cyfres o arddangosiadau gwych sy’n llawn hiraeth.
Canol y Ddinas
2.15pm – 3pm
Am ddim
Mae’r stori’n parhau gyda The Man Engine yn cario’r mwyn copr drwy ganol y ddinas.
Gwaith Copr yr Hafod-Morfa
6.30pm – 9.30pm
Tocynnau o £2.50. www.ticketsource.co.uk/event/222093
Mae The Man Engine yn cyrraedd y gwaith copr i roi’r mwyn copr I John Henry Vivian i’w fwyndoddi mewn sioe tân a goleuadau wych gyda’r hwyr nad ydych am ei cholli!