Digwyddiadau

DigwyddiadLocomotif stêm Penydarren

Wedi'i Orffen
19 Mai 2018, 12pm – 3.30pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Dewch i weld ein copi o locomotif stêm cynta’r byd wrth i ni danio ei hinjan a’i gyrru i lawr y cledrau.

Ar 21 Chwefror 1804, teithiodd y locomotif hwn ar hyd y dramffordd 9 milltir o Benydarren i Abercynon, gan dynnu llwyth o ddeng tunnell o haearn a thua 70 o bobl a lwyddodd i fachu taith answyddogol!

Dyma’r siwrnai gyntaf i’w chofnodi gan locomotif stêm ar gledrau. Byddai’n sbarduno chwyldro byd-eang yn y byd trafnidiaeth yn y 19eg ganrif.

Dibynnol ar y tywydd

Digwyddiadau