Treftadaeth Ddiwydiannol Abertawe

Llyfrgell Glowyr De Cymru

Sefydlwyd Llyfrgell Glowyr De Cymru ym 1973 ac mae'n adnodd amrywiol a chynhwysfawr ar gyfer pobl sy'n ymchwilio i hanes a threftadaeth Maes Glo De Cymru.

Mae'r casgliad yn cynnwys llyfrau, pamffledi, cyfnodolion, cyfeirlyfrau masnach a dyddiaduron, posteri, hanesion llafar, fideos a baneri sy'n gysylltiedig â hanes cymdeithasol, diwylliannol, addysgol a gwleidyddol Maes Glo De Cymru.

Mae'r llyfrgell yn ategu amrywiaeth eang o gyrsiau Adran Addysg Barhaus i Oedolion Prifysgol Abertawe, ac mae'n cynnwys casgliad helaeth o ddeunyddiau sy'n ymwneud â hanes lleol.

Amserau agor

Yn ystod y tymor

Dydd Llun i ddydd Iau: 9am-8pm
Dydd Gwener a Sadwrn: 9am-5pm
Dydd Sul: Ar gau

Gwyliau

Dydd Llun i ddydd Gwener: 9am-5pm
Dydd Sadwrn a Sul: Ar gau

I gysylltu

(01792) 518603/518693
miners@swansea.ac.uk
www.swansea.ac.uk/iss/swml/

Cyfeiriad

Prifysgol Abertawe
Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan
Gower Road
Abertawe
SA2 7NB