Lleoliadau Ffilmio

Gofodau Diwydiannol ar gyfer Ffilm a Ffotograffiaeth

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn llawn gofodau diwydiannol i'w defnyddio gan gynhyrchiadau ffilm a theledu, ffotograffiaeth ffasiwn, cyfweliadau a darlledu byw.

Mae'r orielau a'n Neuadd Fawr yn wrthgyferbyniad modern a slic, sy'n ddelfrydol ar gyfer sioeau panel neu raglenni trafod.

Ebostiwch i drafod sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd.

Y Stôr Gasgliadau - Trysor Cudd Hanes Cymru

Mae mwy i'w weld yn y stôr gasgliadau - warws lawn trysorau o bob math.

O jiraff i gerbyd trên (i fodel enfawr o'r cawr, John Charles), mae'r stôr gasgliadau yw'r lle delfrydol ar gyfer tynnu lluniau nwyddau a ffasiwn; ffilmio cyfweliad neu fideo cerddoriaeth.

Croeso i Bawb

Os ydych chi'n grwp cymunedol, yn elusen gofrestredig, gorff addysg ffurfiol neu'n rhan o Lywodraeth Cymru, cewch logi stafell am ddiwrnod am bris gostyngedig.

Cysylltwch â ni i weld sut allwn ni eich helpu.