Lleoliad Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Lleoliad
Ffordd Ystumllwynarth
Ardal Forwrol
Abertawe
SA1 3RD
Mewn car
Gadewch yr M4 wrth gyffordd 42 tua'r gorllewin neu gyffordd 47 tua’r dwyrain, a dilynwch yr arwyddion brown. Mae’r Amgueddfa ar Ffordd Ystumllwynarth, drws nesaf i LC, sef Canolfan Hamdden Abertawe. Os ydych yn defnyddio teclyn llywio â lloeren, defnyddiwch y cod post SA1 3ST.
Parcio
Y maes parcio agosaf at ein hamgueddfa yw Maes Parcio MSCP Dewi Sant, sy'n faes parcio talu ac arddangos
Ar y Trên neu'r Bws
Bws
Mae Gorsaf Fysiau newydd sbon Dinas Abertawe wedi agor. Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Ar y trên
Mae Abertawe ar brif lein Paddington Llundain. Mae cysylltiadau gwych hefyd i Gaerfyrddin a'r gorllewin, ac i orsafoedd y canolbarth ar lein Calon Cymru.