Canllawiau Mynediad – Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid babi, cŵn tywys, adnoddau Braille, dolenni sain, a’n darpariaeth ar gyfer pobl sydd ag awtistiaeth neu dementia.

Cyfleusterau newid babi

  • Darperir cyfleusterau newid babi ar y llawr gwaelod (ger y caffi ac yng nghefn yr Oriel Newydd) ac ar y llawr cyntaf (Oriel Cyflawnwyr).

Ymwelwyr gydag anghenion symudedd a defnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio

  • Mae mynediad cadeiriau olwyn i bob rhan o'r Amgueddfa. Darperir nifer fechan o gadeiriau olwyn, y cyntaf i'r felin gaiff falu. Gofynnwch i aelod staff wrth y Dderbynfa wrth gyrraedd.

  • Mae croeso i sgwters symudedd, ond dim ond nifer fechan allwn eu caniatáu ar y safle ar yr un pryd. Cysylltwch ar (029) 2057 3600 cyn ymweld.

  • Darperir toiledau anabl ar y llawr gwaelod (ger y caffi ac yng nghefn yr Oriel Newydd) ac ar y llawr cyntaf (Oriel Cyflawnwyr).

  • Mae mynediad cadeiriau olwyn i bob lifft yn yr Amgueddfa, cyhoeddiadau sain a labeli Braille ar y botymau. Mae dau lifft, un yn y Brif Neuadd a'r llall yng nghefn yr Oriel Newydd.

  • Mae pump lle parcio ar gyfer deiliaid bathodyn glas ar East Burrows Place. Mae’r rhain ar gael i ymwelwyr ar sail cyntaf i’r felin.

  • Mae'r Amgueddfa hefyd ar gofrestr swyddogol Consortiwm Newid Lleoedd gan fod ystafell newid a thoiled gwbl hygyrch ar gael yma.

Ymwelwyr dall neu rhannol ddall / Ymwelwyr byddar neu drwm eu clyw

  • Cynlluniwyd pob arddangosfa yn yr Amgueddfa fel bod pawb yn medru eu mwynhau ac mae dehongliad Braille a BSL o nifer ohonynt.

  • Mae'r Cynorthwywyr Orielau hefyd wedi'u hyfforddi i ddehongli y casgliadau a'r arddangosiadau. Darperir mapiau print bras o'r Amgueddfa ar gais, cysylltwch â (029) 2057 3600.

Ystafell Ymlacio

  • Mae gennym ystafell ymlacio ar gyfer unrhyw un sydd angen dianc o brysurdeb yr orielau, er enghraifft ymwelwyr ag awtistiaeth, dementia neu gyflyrau eraill. Gofynnwch wrth y ddesg wybodaeth am fynediad. Mae ein cynorthwywyr oriel wedi derbyn hyfforddiant ynghylch awtistiaeth a dementia, a byddant yn gwneud eu gorau i helpu unrhyw un sydd angen ychydig mwy o sylw i deimlo’n gyfforddus.

  • Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Yr Ystafell Cymorth Cyntaf

  • Mae'r ystafell cymorth cyntaf ar y llawr gwaelod ac mae gwely newid a teclyn codi yno. Os ydych chi am ddefnyddio'r ystafell cymorth cyntaf, gofynnwch i aelod staff am gymorth.

Anghenion dysgu ychwanegol

  • Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa cyn 11am neu ar ôl 3pm bob dydd.

  • Gallwch fenthyg un o’n Paciau Synhwyraidd NEWYDD i’w defnyddio yn ystod eich hymweliadau â’r amgueddfa. Yn cynnwys: amddiffynwyr clustiau, tortsh, sbectol haul, teganau fidget, chwyddwydr a map synhwyraidd o'r orielau. Gallwch fenthyg pecyn AM DDIM o'r ddesg flaen

Cŵn Tywys

Mae croeso i gŵn tywys, cŵn clywed a chŵn cymorth ym mhob rhan o'r Amgueddfa.