Teuluoedd
Mae hwyl di-ri a gweithgareddau dychmygus lle gall pob aelod o'r teulu fwynhau a chymryd rhan ar gael yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Mae rhywbeth yno i ddiddori ymwelwyr o bob oed, o weithdai ymarferol, diwrnodau thematig hwyliog, sgrinio ffilmiau a chelf a chrefft. Mae pob gweithgaredd am ddim oni nodir yn wahanol.
Cofiwch gofrestru i dderbyn
cylchlythyr ar-lein misol Amgueddfa Cymru sydd yn llawn syniadau ar sut i ddiddanu'r plant.Caffi'r Glannau
Ymlaciwch yng Nghaffi’r Glannau ar ôl crwydro’r orielau.
- Ar agor bob dydd o 10am i 4.30pm
- Bwyd poeth ar gael o 10am i 3pm
- Dewis llysieuol, dietegol a bwydlen blant ar gael
- Digonedd o seddi bistro cyfforddus mewn gofod agored braf
- Ardal chwarae i blant a seddi uchel ar gyfer babanod
Dewis i blant
Gallwch chi lenwi bocs bwyd i blentyn â phum eitem o’ch dewis chi gan gynnwys brechdanau, sudd ffrwythau, danteithion neu iogwrt. Mae bwydlen boeth i blant hefyd ar gael.
Gwybodaeth ddefnyddiol
- Caffi ac ardal bicnic awyr agored
- Mynediad a pharcio i'r anabl
- Cadeiriau olwyn ar gael drwy ofyn
- Toiledau hygyrch a chyfleusterau newid babi
- Ty bach Lleoedd Newid
- Loceri
- WiFi am ddim
Rhaid i blant dan 11 fod yng nghwmni oedolyn bob amser.