Gweithdy Amgueddfa

Big Pit: Taith Danddaear

Sut oedd bywyd danddaear i lowyr a cheffylau'r lofa? Sut oedd glo yn cael ei gloddio? Pa beryglon oedd yn wynebu'r glowyr?

Teithiwch 90 metr (300 llath) danddaear a chael taith unigryw a chyfareddol drwy ran o'r hen waith glo gydag un o Dywyswyr Glofa Big Pit.

Nifer

15 person (a Thywysydd Glofa).

Cyfradd disgyblion / staff

Hyd at 8 oed: 6 disgybl / 1 oedolyn

8 - 11 oed: 10 disgybl / 1 oedolyn

11 - 16 oed: 14 disgybl / 1 oedolyn

*Does dim angen dillad arbennig ar gyfer y daith danddaear, ond rydyn ni'n argymell i chi wisgo dillad cynnes ac esgidiau addas.

Hyd: 1 awr
Dyddiadau: I ganfod os oes lle, anfonwch enw'r ysgol, nifer y disgyblion a'r flwyddyn addysg, a dyddiadau dewisol at bigpit@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3650
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – am ddim.

Cwricwlwm

Dyniaethau: Ymholi, archwilio ac ymchwilio yn annog chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a'i ddyfodol. / Mae byd natur yn amrywiol a dynamig, a dan ddylanwad prosesau a gweithgarwch dyn. 

Amcanion dysgu:

  • Adeiladu cnewyllyn gwybodaeth a meithrin y sgiliau i gymhwyso'r wybodaeth honno mewn gwahanol gyd-destunau drwy ddysgu am hanes y diwydiant glo.
  • Arwain a chwarae rolau gwahanol mewn timau yn effeithiol a chyfrifol drwy ddeall rôl a chyfrifoldebau glowyr.
  • Datblygu dealltwriaeth o'u diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a'u byd, ddoe a heddiw, drwy ddysgu am hanes meysydd glo Cymru a'u heffaith ehangach.
  • Cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol drwy gerdded danddaear.
Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3650