Gweithdy Amgueddfa

Siop Gwalia

Sut beth oedd siopa yng Nghymru cyn dyddiau’r archfarchnadoedd enfawr? 

Dewch i gyfarfod â’r siopwr yn Siop Gwalia, ein siop o’r 1920au. 

Bydd disgyblion yn gallu gweld pa eitemau oedd ar gael ganrif yn ôl a chymharu’r siop gyda phrofiad siopa cyfoes.

Uchafswm o 30 disgybl.

Hyd: 45 munud
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Y Dyniaethau

Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael ȃ’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.

Siop Gwalia

Siop Gwalia

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk