Gweithgaredd Addysg

Plant y Chwyldro

Y flwyddyn yw 1842. Mae diwydiant yn tyfu ar raddfa fawr ac mae Prydain yn dod yn gyfoethog iawn. Fodd bynnag, mae llawer o weithwyr Prydain yn dlawd, yn newynog ac yn sâl drwy’r amser. Mae rhai Aelodau Seneddol yn poeni llawer am hyn, ac mae’r Frenhines Fictoria wedi dweud bod angen cynnal ymchwiliad arbennig i ganfod pam bod ei phobl yn dioddef fel hyn.

Rydych chi’n arolygydd arbennig sydd wedi cael ei anfon i Flaenafon i ganfod sut brofiad yw byw a gweithio mewn tref ddiwydiannol newydd. Byddwch chi’n ymchwilio i’r pedair agwedd ar fywyd a ddisgrifir yn y tasgau isod ac yn casglu tystiolaeth ar gyfer adroddiad i’r Frenhines. Yn yr adroddiad hwn dylech ddisgrifio’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu ac awgrymu’r hyn sydd angen ei wneud i wella bywydau gweithwyr.

 

Plant y Chwyldro

 

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.

Adnoddau

Cyffredinol

Plant y Chwyldro