Adnoddau Dysgu

Adnodd Dysgu Gwyddorau Naturiol

Y Cyfnod Sylfaen / Cyfnod Allweddol 2

Nod yr adnodd hwn dan arweiniad athro ar gyfer ysgolion cynradd yw helpu athrawon ac arweinwyr grŵp eraill i drefnu ymweliad llwyddiannus. Mae’r orielau yn amrywiol, ac yn cwmpasu pob math o bynciau gwahanol o fewn y cwricwlwm Gwyddoniaeth, gan gynnwys cynefinoedd, anifeiliaid, planhigion, deinosoriaid, mwynau a bioamrywiaeth.

Mae’r cynnwys yn berthnasol hefyd i’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.

Mae mwy o wybodaeth am yr arddangosfeydd yn y pecyn er mwyn helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Mae’n cynnwys gweithgareddau hefyd i’ch helpu i archwilio’r arddangosfeydd.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk

Adnoddau