Yn Eich Ardal

Ymchwiliad bylbiau’r gwanwyn i ysgolion.

Ymunwch â'r miloedd o wyddonwyr ifanc sy'n ymchwilio i'r hinsawdd gydag Amgueddfa Cymru.

Mae gwyddonwyr ifanc o bob cwr o'r DU yn defnyddio bylbiau cennin Pedr a crocws i astudio effeithiau newid hinsawdd. Mae'r astudiaeth yn gwella sgiliau gwyddoniaeth a rhifedd tu allan i'r dosbarth drwy gael disgyblion i blannu, arsylwi, a chadw cofnodion tywydd. Bob blwyddyn mae 175 o ysgolion ar draws y DU yn cymryd rhan. Mae'r project yn cael ei gynnal yn Gymraeg a Saesneg, ac yn addas ar gyfer ysgolion mewn dinasoedd, trefi, a chefn gwlad. Dechreuodd yr astudiaeth hir-dymor yng Nghymru yn 2005, cyn ehangu i'r Alban a Lloegr yn 2011, ac i Ogledd Iwerddon yn 2017. Bydd Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion yn dathlu ei ben-blwydd yn 20 oed yn ystod blwyddyn academaidd 2025-26! 

Athro’r Ardd a’r Bwlb Bychan yw'r cymeriadau cartŵn sy'n arwain yr ymchwiliad. Maen nhw'n gwahodd plant i gymryd rhan, yn ateb cwestiynau'r disgyblion ac yn rhannu adnoddau a blogiau drwy gydol y project.

 

Am ddim i bob ysgol yng Nghymru. Rhaid i ysgolion gofrestru yn ystod tymor yr haf – ar gyfer dechrau yn yr hydref.

Mwy o wybodaeth am y project

 

 

Dyddiadau: Mis Medi – Mis Mawrth
Athro Ardd