Gweithdy Amgueddfa

Gwledda a Chaethwasiaeth

Ymennydd paun, pathewod wedi’u llenwi ac wystrys –dyna rai o’r seigiau sydd ar y fwydlen mewn gwledd Rufeinig. Bydd disgyblion yn chwarae rôl y meistr cyfoethog neu’r caethwas, ac yn cael blas ar ddau begwn eithaf cymdeithas. Dan arweiniad hwylusydd mewn gwisg.

 

Hyd: 45 munud
Dyddiadau: 27 Chwef - 22 Maw 2024
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Y Dyniaethau: Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3546 neu e-bostiwch learning.romans@museumwales.ac.uk