Gweithdy Amgueddfa

Her yr Olwyn Ddŵr

Wyddoch chi mai'r Amgueddfa Lechi yw cartref yr olwyn ddŵr weithredol fwyaf ar dir mawr Prydain? Dewch i ddysgu am ryfeddodau pŵer dŵr a'r defnydd dyfeisgar o ynni naturiol i bweru'r safle. Cewch weld ein dwy olwyn ddŵr ar waith, cyn i ddisgyblion wynebu'r her o ddylunio ac adeiladu eu holwynion dŵr eu hunain yn Neuadd Bŵer fawreddog yr amgueddfa. Gweithgaredd ymarferol gwych i ddatblygu sgiliau STEM!

'Mae'r lleoliad yn arbennig o dda i ddangos i blant sut mae gwyddoniaeth o'n cwmpas ym mywyd pob dydd ar waith 'go iawn' ac yn rhoi y gweithgareddau o fewn cyd destun. Roedd gweld yr olwyn fawr a'r inclen ar waith yn sbarduno syniadau'r disgyblion i feddwl yn greadigol.' Lynne Hughes-Williams, Ysgol Gwaun Gynfi

Hyd: 1 awr 30 munud
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £100 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Gwyddoniaeth a Thechnoleg - 

  • Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol i ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas.
  • Mae grymoedd ac egni yn gosod sail i ddeall ein bydysawd.

 

Nodau dysgu:

  • Defnyddio olwynion hanesyddol y casgliad fel ysbrydoliaeth i ddylunio olwyn ddŵr
  • Cyfuno gwrthrychau pob-dydd i adeiladu olwyn weithredol effeithiol
  • Archwilio sut mae symudedd yr olwyn yn cael ei effeithio gan gyflwyno neu newid grymoedd penodol
  • Trafod ac egluro'r symudiad egni o'r dŵr i'r olwyn, a sut y gellir defnyddio hyn i ddarparu'r ynni sydd ei angen i'n bywydau pob dydd
Plant yn cydweithio i adeiladu olwyn ddwr allan o blatiau a chwpanau plastig
Criw o blant yn sefyll yn edrych ar olwyn ddwr fawr fetel
Amgueddfa Lechi Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3702