Creu a Gwneud

I'r Awyr!

Mae'r Robin Goch yn awyren fono sydd bellach yng nghasgliad Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Fe’i hadeiladwyd gan ddyn o’r enw Charles Horace Wakins yn ei weithdy yng Nghaerdydd tua 1907-08. Mae wedi’i wneud o bren a gwifren piano ac iddi sedd beilot wedi ei wneud o gadair cegin! Dywedodd Mr Watkins ei fod wedi hedfan yr awyren sawl gwaith o gwmpas Caerdydd a'r cyffiniau cyn 1914. Archwiliodd peirianwyr o RAF Saint Tathan y Robin Goch yn ystod y 1960au a daethant i'r casgliad ei fod yn sicr yn medru hedfan. Mae'n un o'r ychydig awyrennau amatur a adeiladwyd cyn yr Ail Ryfel Byd i oroesi, ac yn un o'r enghreifftiau cynharaf o awyrennau o'r Deyrnas Unedig. 

Nawr, dydyn ni ddim yn awgrymu eich bod yn mynd ati i wneud awyren ar raddfa lawn, ond fe allech chi liwio'r llun o'n Robin Goch sydd wedi ei atodi isod i'w lawrlwytho a'i brintio.

Neu beth am wneud eich awyren bapur eich hun? 

Ar gyfer hyn, bydd angen

• Ychydig ddalennau o bapur A4 plaen

• Pensiliau neu benau lliwio i'w haddurno 

Bydd y fideo byr hwn yn dangos i chi sut i wneud pum siâp awyren wahanol

 

Ar ôl i chi eu gwneud, beth am roi cynnig ar eu hedfan a gweld pa un aiff bellaf? A chofiwch bostio lluniau o'ch awyrennau ar ein tudalen Facebook: www.facebook.com/waterfrontmuseum

Hyd: 30 munud
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.
RG

Llun du a gwyn o'r Robin Goch yn ei bri. O gasgliad Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3600

Adnoddau