Project

Crug Oes yr Efydd gyda Ysgol Plasmawr

Ym mis Ebrill 2018 treuliodd disgyblion o Ysgol Plasmawr a oedd yn gweithio tuag at eu Gwobr Dug Caeredin y diwrnod yn Sain Ffagan yn adeiladu Crug o Oes yr Efydd. Dros y misoedd blaenorol roedd y disgyblion wedi gweithio ar drefnu digwyddiad i agor y crug ­– yn cynnwys y gwaith adeiladu ei hun.  

Cafodd y myfyrwyr eu hannog i feddwl yn greadigol wrth lunio rhaglen ar gyfer y digwyddiad. Roedd y digwyddiad yn cynnwys pobl mewn gwisgoedd Oes yr Efydd ac arddangosiadau o dechnoleg cyn-hanesyddol. Roedd hwn yn brofiad dysgu gweithredol ac yn gyfle i ennyn brwdfrydedd myfyrwyr dros ddysgu y tu allan i’r dosbarth.  

O fewn y crug claddodd y myfyrwyr nifer o nwyddau bedd, gan gynnwys dagerau efydd, crochenwaith, ac olion mochyn wedi ei amlosgi. Bydd y crug yn cael ei gloddio mewn 10-20 mlynedd i ddeall yn well sut mae'r crug a'r cynnwys wedi newid dros amser. 

Rydyn ni'n gobeithio gallu gwahodd rhai o'r myfyrwyr wnaeth gymryd rhan yn ôl ar gyfer y gwaith cloddio!

Disgyblion Ysgol Plasmawr gyda'r Crug

Nwyddau bedd cyn claddu

Crug Oes yr Efydd gorffennedig

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk