Project

Gwaith traws-gwricwla gyda Ysgol Ynys y Barri

Daeth Ysgol Gynradd Ynys y Barri atom yn 2018 i drafod y posibilrwydd o gydweithio ar broject ysgol gyfan. Mae Ysgol Gynradd Ynys y Barri yn Ysgol Arloesi sy'n canolbwyntio ar ddiwygio'r cwricwlwm. Ym mis Ionawr 2019 daeth holl athrawon yr ysgol ar ddiwrnod HMS i Sain Ffagan i drafod syniadau pellach.

Penderfynwyd y byddai pob grŵp blwyddyn o Ddosbarth Dderbyn hyd at flwyddyn 6 yn cymryd rhan yn y project gyda phob dosbarth yn canolbwyntio eu gwaith ar adeilad hanesyddol gwahanol o Sain Ffagan. Byddai pob dosbarth yn cwblhau tymor o waith gan ddefnyddio Sain Ffagan fel thema ac yn canolbwyntio ar adeilad o'u dewis. Ymwelodd pob dosbarth â'r amgueddfa, rhai fwy nag unwaith, i astudio eu hadeilad yn fanwl a mynd â'u canfyddiadau yn ôl i'r ysgol.

Cwblhaodd pob dosbarth ystod eang o waith trawsgwricwlaidd yn ystod y project. Cafodd ffilmiau eu gwneud, codwyd modelau o adeiladau, ac ysgrifennwyd cofnodion dyddiadur ymhlith llawer o ddarnau eraill o waith. Ym mis Gorffennaf 2019 i ddathlu'r gwaith, dychwelodd y disgyblion i Sain Ffagan i arddangos eu gwaith a dangos y ffilmiau roeddent wedi'u gwneud ar sgrin awyr agored enfawr. Daeth nifer o rieni i'r digwyddiad hefyd i weld y gwaith.

Gyda'r cwricwlwm newydd yng Nghymru ar ei ffordd, roedd y project hwn yn gyfle gwych i ddangos sut y gellir defnyddio Sain Ffagan fel adnodd ar gyfer gwaith traws gwricwla.

Disgyblion Ysgol Ynys y Barri yn Llys Llywelyn

Model o Rhyd-y-car

Digwyddiad arddangos gwaith Ysgol Ynys y Barri

Model Kennixton tu fewn ffermdy Kennixton

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk