Gweithdy Amgueddfa

Diwrnod Golchi

Sut oedd pobl yn golchi eu dillad yn y dyddiau cyn technoleg fodern? Dewch i helpu Anti Margiad gyda’r diwrnod golchi i ddysgu mwy!

Bydd archebu’r sesiwn yma ar gyfer eich grwp yn rhoi cyfle i ddisgyblion:

  • Deithio nôl i Oes Fictoria ar gyfer gweithdy ymdrochol gydag ‘Anti Margiad’

  • Helpu Anti Margiad i ddefnyddio’r bwrdd sgwrio, twb a doli a mangl i olchi dillad a dysgu mwy am fywyd yn y cyfnod

  • Weld, arogli, cyffwrdd a dysgu am sebon a sut mae wedi newid dros amser

  • Greu eu peli sebon eu hunain i fynd adref

Archebion a chwestiynau i llechi@amgueddfacymru.ac.uk 

Amser Golchi - ilyfr i'w ddefnyddio ar ôl neu cyn ymweld. Yn rhad ac am ddim.

Hyd: 1 awr x 2
Dyddiadau: 23-29 Chwefror 2024
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £100 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Dyniaethau - Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Amgueddfa Lechi Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3702