Creu a Gwneud

Haenau Hallt

Sylwch chi erioed ei fod yn haws i arnofio yn nŵr y môr yn hytrach nag yn y bath?

Mae holl ddefnyddiau’r bydysawd wedi eu creu o foleciwlau bychain. Mae’r moleciwlau yma wedi eu trefnu’n wahanol o fewn pob defnydd “Dwysedd” yw’r term sy’n disgrifio pa mor agos a chryno mae moleciwlau defnydd penodol wedi eu trefnu. Mae moleciwlau wedi eu trefnu’n dyn ac yn gryno yn fwy dwys na moleciwlau gyda mwy o wagle rhyngddynt Dwysedd sy’n achosi i wrthrychau arnofio neu suddo mewn hylif. Er enghraifft, bydd ceiniog fetel yn suddo mewn dŵr gan fod y geiniog yn fwy dwys na dŵr. Bydd corcyn yn arnofio ar arwyneb dŵr gan fod y corcyn yn llai dwys na dŵr.

Yn yr arbrawf hwn, byddwn yn gwneud enfys hylifol trwy wneud hydoddiannau o ddwysedd gwahanol.

Adnoddau

Cyffredinol

Haenau Hallt