Creu a Gwneud

Gwneud gwesty gwenyn

Dydi pob math o wenyn ddim yn byw mewn cychod gwenyn fel gwenyn mêl. Mae rhai gwenyn, a elwir yn wenyn unig, yn byw ar eu pen eu hunain ac yn gwneud nythod bach mewn gwahanol lefydd. Mae gwesty gwenyn yn lle diogel i’r gwenyn hyn orffwys.

Bydd angen:

Potel ddiod 2 litr wag

Siswrn

Metr o linyn

Morthwyl a hoelion

Secateurs neu haclif fach

Coesau bambŵ neu goesynnau eraill sy’n wag yn y canol (digon i lenwi’r botel – tua 15cm)

Beth i’w wneud:

1. Torrwch y top oddi ar y botel blasting (bydd angen oedolyn i helpu’r plant i wneud hyn). Dylai hyn adael silindr plastig tua 15cm o hyd, ag un pen wedi’i selio.

2. Defnyddiwch y secateurs neu’r haclif i dorri’r bambŵ yr un hyd â’r botel. Bydd angen i oedolyn wneud hyn - gall fod yn syniad da ei wneud ymlaen llaw.

3. Paciwch y darnau bambŵ mor dynn ag y gallwch i’r botel.

4. Clymwch ddolen o’r llinyn yn eithaf tynn o gwmpas y botel, tua chwarter ffordd o un pen. Gwnewch yr un peth ar y pen arall. Defnyddiwch ddarn arall o linyn i gysylltu’r ddwy ddolen, gan wneud dolen i hongian eich gwesty gwenyn.

5. Nawr mae angen dewis ble i hongian y gwesty gwenyn. Ceisiwch ddewis rhywle heulog, yng nghysgod y gwynt. Wal neu ffens yn wynebu’r de neu’r dwyrain sydd orau. Gofalwch ei fod o leiaf 1m uwchlaw’r ddaear ac nad yw planhigion ac adeiladau’n taflu gormod o gysgod drosto yn ystod y dydd.

6. Os ydych yn hongian eich gwesty ar wyneb pren, gallwch forthwylio ychydig o hoelion I mewn i’w ddal. Gallech roi’r gwesty ar wyneb carreg neu frics ond bydd angen dril i wneud hynny.

7. Gofalwch fod y gwesty’n wastad. Os na allwch ei gael yn hollol lorweddol, gofalwch fod y pen wedi’i selio’n uwch na’r pen agored. Bydd hyn yn cadw dŵr rhag casglu yn y botel

Adnoddau