Creu a Gwneud

Gwneud Bomiau Hadau

Inspired by the GRAFT Garden at National Waterfront Museum? Seed bombs are a great way to spread flowers and brighten up your garden. They are quick, simple and lots of fun to make.

Bydd angen:

  • Clai aersychu (clai crochenydd)
  • Pridd potio
  • Hadau
  • Dŵr
  • Carton wyau neu cynhwysydd arall

Cyfarwyddiadau:

1. Yn gyntaf, mae angen clai arnoch. Gallwch wneud bomiau o unrhyw faint, ond rhai bach sy’n gweithio orau. Mae darn o glai tua modfedd mewn diametr yn gweithio’n dda.

2. Ychwanegwch yr un faint o bridd ag o hadau i’r clai. Ceisiwch gael tua 5 rhan o glai i 1-2 ran o bridd ac 1-2 ran o hadau

3. Defnyddiwch eich bysedd i gymysgu popeth fel bod yr hadau a’r pridd wedi’u gwasgaru trwy’r clai. Os yw’r cymysgedd yn briwsioni, ychwanegwch ychydig ddiferion o ddŵr.

4. Rholiwch y clai’n bêl (neu siâp arall) ac mae gennych fom hadau!

5. Chwiliwch am rywle i’w cadw. Mae hen focsys wyau yn lle da.

6. Gadwech i’r bomiau hadau sychu. Mae angen o leaif 24 awr i wneud hyn, nail ai ger ffenest neu mewn lle sych y tu allan fel sied yn yr ardd.

7. Penderfynwch lle i daflu eich bom hadau! Mae’n well dewis rhywle yn eich gardd sy’n cael llawer o haul. Mae’n gweithio orau os yw’r bomiau’n glanio ar bridd sydd wedi’i droi.

8. Os yw’n well gennych, gallwch eu plannu mewn potiau planhigion (un bom i bob potyn) neu mewn blwch ffenest (hyd at bedwar i bob blwch). Does dim angen eu claddu o dan y pridd, dim ond eu rhoi ar yr wyneb.

9. Cofiwch roi dŵr i’ch planhigion! Dylech ddechrau eu gweld yn tyfu ar ôl rhyw bythefnos.

Llun o fomiau hadau
Daluniad o Graft Garden yn Amgueddfa Genedlaethol Y Glannau

Adnoddau