Gweithdy Amgueddfa

Gweithdy: Archwilwyr Amgueddfa Bach yng Nghanolfan Ddarganfod Clore

Dewch i fwynhau Canolfan Ddarganfod Clore – oriel ryngweithiol gyffrous yn llawn cannoedd o wrthrychau o gasgliad yr Amgueddfa i'w trin a'u trafod. Bydd ein hwylusydd yn eich helpu i chwarae, archwilio, darganfod, a holi cwestiynau am y casgliad. Dewch yn guradur eich hun a threfnu a dosbarthu gwrthrychau yn ôl ei nodweddion. Yna, defnyddiwch eich sgiliau curadu newydd i greu amgueddfa anghygoel.

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Y Dyniaethau

  • Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
  • Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

  • Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

  • Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.
Llun o blentyn yn edrych trwy chwyddwydr
Llun o ddau blentyn yn edrych trwy chwyddwydrau
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk