Creu a Gwneud

Guess Whorl Gêm o Gardiau

Yn debyg i Guess Who, mae Guess Whorl yn gêm o gardiau cystadleuol lle mae chwaraewyr yn cymryd tro gofyn cwestiynau i’w gilydd am nodweddion adnabod. Amcan y gêm yw cyfrifo pa rywogaeth o Falwod Dwr Croyw Prydeinig mae’r chwaraewr arall wedi dewis, gan ddefnyddio proses o ddilead a gan ofyn cwestiynau fel; “Ydy’r gragen y falwoden yn bigfain?” ac “Oes patrymau lliwgar ar gragen y falwoden?”

Cafodd Guess Whorl ei greu i weithio fel offeryn addysgiadol. Wrth chwarae’r gêm, mae chwaraewyr yn dysgu am y gwahaniaethau rhwng rhywogaethau o falwod dwr croyw Prydeinig a sut i gyfrifo a disgrifio'r gwahaniaethau yma fel tacsonomydd.

Llun o ddau blentyn yn chwarae'r gêm o gardiau Guess Whorl