Gweithdy Amgueddfa

Gweithdy: Ditectifs Amgueddfa yng Nghanolfan Ddarganfod Clore

Pam fod amgueddfeydd yn bodoli, ac o ble ddaw casgliadau ys gwn i? Dewch i Ganolfan Ddarganfod Clore i ganfod yr ateb. Mae'r oriel ryngweithiol hon yn llawn cannoedd o wrthrychau o gasgliad yr Amgueddfa i'w trin a'u trafod. Bydd y gweithdy ymarferol hwn yn gyfle i ddarganfod, holi, trafod a dadlau. Dewch yn guradur, ac ymchwilio a disgrifio gwrthrych yn barod i'w arddangos mewn amgueddfa. Byddwn ni hefyd yn trafod trefedigaethu a chynrychioliad mewn casgliadau amgueddfa.

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Y Dyniaethau

  • Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
  • Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

  • Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

  • Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.
Llun o bedwar o blant ifanc yn edrych ar ffosiliau
Llun o ddau fachgen yn tynnu llun mewn ystafell addysg yn yr amgueddfa
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk