e-Llyfr

Agraffiadydd yng Nghymru

Agraffiadydd yng Nghymru. Taith drwy gelf, gwyddoniaeth a Chymru.

ilyfr - Agraffiadydd yng Nghymru (Gellir ei weld ar ddyfeisiau Apple)

elyfr - Agraffiadydd yng Nghymru (Gellir gweld fel cyswllt ar unrhyw ddyfais)

Ffeil PDF ar gael isod. 

Anelir yr adnodd hwn at blant 7-11 oed. Gellir ei ddefnyddio yn ystod ymweliad â'r Amgueddfa, neu yn yr ystafell ddosbarth.

Yn yr adnodd hwn byddwch yn:

  • Dysgu am grŵp enwog o artistiaid – yr Argraffiadwyr
  • Darganfod gwyddor lliw a golau
  • Darganfod pa fath o le oedd Caerdydd a de Cymru ar ddiwedd oes Fictoria
  • Archwilio casgliadau Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Cwricwlwm

Y Celfyddydau Mynegiannol

  • Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.
  • Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.
  • Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.

Y Dyniaethau

  • Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

  • Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau.
Argraffiadydd yng Nghymru: Taith drwy gelf, gwyddoniaeth a Chymru