Creu a Gwneud

Torch Nadolig Uwchgylchu

Creu torch Nadolig wedi’i uwchgylchu gan ddefnyddio hen ffabrig neu ddeunyddiau cartref gwastraff.

Bydd angen:

  • Plât papur neu ddarn o gerdyn wedi torri i mewn i siâp tebyg.
  • Stribedi o hen ffabrig
  • Darn o rhuban neu llinyn

Cyfarwyddiadau:

1. Torrwch gylch o fewn canol y cerdyn neu blât. Dyma fydd ffrâm eich torch Nadolig.

2. Clymwch stribedi o ffabrig o gwmpas y ffrâm. Does dim angen glud!

3. Parhewch i glymu’r stribedi, tan faer y torch yn orlawn.

4. Clymwch ddarn o ruban neu linyn o gwmpas y torch. Mae hi nawr yn barod i’w hongian!

TIP: Yn lle defnyddio ffabrig, beth am ddefnyddio deunyddiau fel papur swigod neu bapur Nadolig? Beth allech chi ffeindio?