Creu a Gwneud

Golygfa’r Gaeaf Mewn Jar

Beth am greu golygfa Gwyl y Gaeaf? Heb glitter!

Bydd angen:

Jar wag, gyda chaead

Darn o garden

Siswrn

Tap selo neu glud

Deunyddiau i addurno. Wnaethom ni ddefnyddio pens ffelt a papur sidan

Cyfarwyddiadau:

1. Dechreuwch gan dorri stribed o garden. Gwnewch yn siŵr ei fod yn hirach na chylchedd y jar.

2. Creuwch plyg ar waelod y garden, a thorrwch tua 6 snips. Bydd hyn yn creu rhes o dabiau.

3. Ar ôl gorffen addurno eich carden, plygwch y tabiau yn ôl. Dyma fydd sylfaen eich cynllun, i ddal yn ei le ar waelod y jar.

4. Gwnewch gylch gyda’r cerdyn, a gludwch yn ei le. Gwnech yn siŵr bod y tabiau yn fflat yn erbyn gwaelod y jar. Falle ystyried defnyddio tap selo i’w gludo i lawr.

5. Wnaethom ni addurno gweddill y jar gyda papur sidan a paent. TIP: Rhowch canwyll ffug ar waelod y jar i greu effaith golau nos!

 

Llun o jar, siswrn a phensiliau

Adnoddau