Gweithgaredd Addysg

Her Kahoot: Pryd Bydd ein Cennin Pedr yn Blodeuo?

Arolwg newid hinsawdd yw Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion, a chaiff ei redeg gan Amgueddfa Cymru.

Mae gwyddonwyr ifanc o bob cwr o’r DU yn plannu bylbiau ar dir yr ysgol ac yn cofnodi eu twf er mwyn astudio newid hinsawdd.

Maen nhw’n cadw cofnodion tywydd a dyddiadau blodeuo’r bylbiau i weld sut mae newidiadau yn y tywydd yn effeithio ar flodau cennin Pedr a chrocws. Mae’r project wedi bod yn mynd yng Nghymru ers 2005 ac ar draws y DU ers 2012.

Cymerwch ran yn her Kahoot! Defnyddiwch sgiliau rhifedd i astudio'r data a rhagfynegi.

https://kahoot.it/challenge/006571896

 

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk