Gweithgaredd Addysg

Archwilio: Newid yn yr Hinsawdd

Dewch i gael eich ysbrydoli ar ffyrdd ymarferol o ddod â'r heriau mawr sy'n wynebu natur, a syniadau mawr gwyddoniaeth yn fyw yn ein pecyn ARCHWILIO: Newid yn yr Hinsawdd. 

Pasbort Cylchred Carbon

Cynyddu gwybodaeth disgyblion am y gylchred garbon ac effaith dyn arni.

Measur Carbon Mewn Coed

Y disgyblion i fesur coed ger yr ysgol a chyfrifo faint o garbon sydd wedi’i storio mewn coed unigol. Y disgyblion i ddisgrifio sut mae coedwigoedd yn helpu i liniaru’r newid yn yr hinsawdd.

Nadroedd ac Ysgolion Newid yn yr Hinsawdd

Mae disgyblion yn deall effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar rywogaethau trefol a sut y gellir lleihau hyn. Mae disgyblion yn dod i ddeall y map trywydd at ardaloedd trefol carbon niwtral ac ardaloedd sy'n gallu gwrthsefyll ac sydd wedi addasu i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.

Cardiau Cryfa - Rhywogaethau

Mae disgyblion yn trafod ac ymchwilio i wytnwch rhywogaethau i’r newid yn yr hinsawdd. Byddant yn dysgu beth sy'n gwneud rhywogaeth yn wydn a’r hyn sy'n gwneud rhywogaeth yn fregus, a chymharu a rhagweld ymateb rhywogaethau amrywiol i’r newid yn yr hinsawdd.