Gweithdy Amgueddfa

Gweithdy: Fy Ymweliad Cyntaf ag Oriel Celf

Gyda cymaint o gelf i'w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, mae'n anodd gwybod ble i ddechrau. Gadewch i un o'n hwyluswyr eich arwain drwy ddetholiad o weithiau amrywiol yn yr orielau. Bydd cyfle i rannu syniadau, barn, teimladau a naws. Gallwch chi hefyd arbrofi â lliw a siâp mewn heriau ymarferol. I gloi, byddwch chi'n helpu i greu gwaith celf siâp yn yr oriel. 

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Y Celfyddydau Mynegiannol

  • Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.
  • Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.
  • Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

  • Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.

Y Dyniaethau

  • Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
Llun o bump o blant ysgol yn eistedd ar fainc mewn oriel gelf
Llun o fenyw yn dysgu dosbarth i blant mewn oriel gelf
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk