Am ddim
Yn yr ysgol
Y 1960au: Gweithdy Rhithiol
Amgueddfa Lechi Cymru

Sut brofiad oedd byw yng Nghymru yn y 1960au, a beth oedd yn digwydd yn y byd ar y pryd? Mewn fideo cyn y sesiwn, dewch i gwrdd a Huw yn Rhif 1, Fron Haul, ar ddiwedd 1969 wrth iddo edrych yn ôl dros ddegawdd gyffrous a chythryblus. Bydd Huw yn trafod rhai o straeon newyddion mawr y chwedegau yng Nghymru a’r byd, ac yn sôn am ei brofiad fel person ifanc yn y cyfnod yma.
Bydd cyfle wedyn i drin a thrafod gyda hwylusydd dros Teams, fydd yn dangos pob math o wrthrychau diddorol er mwyn dysgu mwy am fywyd pob dydd yn y cyfnod. Cewch hefyd grwydro o gwmpas y tŷ 1969 yn ddigidol gan ddefnyddio technoleg 360Scan.
I archebu a siarad â rhywun am y sesiwn hon, ffoniwch (029) 2057 3702
Hyd: 1 awr
Tâl:
I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.
Cwricwlwm
- y Dyniaethau
- Celfyddydau Mynegiannol
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg