Ymweliadau i’r safle

Ymweliad ysgol i Gaerllion

Ymweliad ysgol i Gaerllion

Ymweliad ysgol ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Ymweliad ysgol ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae ein hamgueddfeydd ar agor i ddysgwyr! Dewch draw, neu gallwch gymryd rhan mewn Gweithdy Rhithiol.

Cymerwyd rhagofalon ym mhob un o Amgueddfeydd Amgueddfa Cymru i leihau lledaeniad COVID-19.

Dyma beth y gall ymwelwyr ysgol ei brofi wrth ymweld ag ein hamgueddfeydd ar hyn o bryd:

 

Amgueddfa Lleng Rhufeinig Cymru

Gall dri ddosbarth y diwrnod ymweld ag Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Dydd Llun i ddydd Gwener. Mae’r ymweliad yn cynnwys ymweliad ag oriel yr Amgueddfa, Amffitheatr, Baddondai Rufeinig, ystafell farics y milwyr  a sesiwn wedi ei hwyluso (dewisol). Ymweliad ysgol i Gaerllion | National Museum Wales (amgueddfa.cymru)

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Gall dau ddosbarth y diwrnod ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Ymweliadau hunan-dywys yw’r rhain, sy’n rhoi cyfle i chi weld y deinosoriaid yn oriel Esblygiad Cymru, ac archwilio ein horielau celf anhygoel.Yn anffodus, nid yw ein hystafell ginio a’r loceri ar gael ar hyn o bryd. Mae gennym ddigon o adnoddau hunan-dywys i’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch ymweliad, ac i’w defnyddio yn y dosbarth: Adnoddau | Amgueddfa Cymru. Mae mwy o wybodaeth ynghylch archebu i’w weld yma: Gwybodaeth Archebu | Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Gall un ysgol y diwrnod ymweld o ddydd Llun i ddydd Gwener ond mae gofod yn ein ystafell ginio yn gyfyng. Mae trip heb ei hwyluso’n cynnwys cyfle i weld y ffilm a’r hollti a naddu a thaith hunan-dywys o gwmpas yr amgueddfa. Gallwn hefyd gynnig rhai sesiynau wedi eu hwyluso am ffi – ewch i wefan yr Amgueddfa Lechi am fanylion pellach neu ffoniwch 02920 573702 i drafod.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Gall hyd at 60 ymweld bob diwrnod o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gallwn gynnig amser yn ein hystafell ginio yn ystod eich ymweliad. Gallwn gynnig gweithdai wedi eu hwyluso (am ffi ychwanegol), o fôr ladron i ddyfeisiau anhygoel Oes Fictoria – Ewch i wefan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i ddysgu mwy neu ffoniwch 02920 573 600 neu e-bostio addysg.glannau@amgueddfacymru.ac.uk

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Rydym nawr yn gallu croesawu ysgolion nôl i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Gallwn dderbyn hyd at 90 o ddisgyblion o 2 ysgol bob diwrnod. Gall grwpiau ymweld â’r gerddi, orielau a’r adeiladau hanesyddol neu gymryd rhan mewn amryw o weithdai wedi’u hwyluso. Mae’r ystafell frechdanau hefyd ar gael i’w defnyddio. Gallwch ddod o hyd i amryw o adnoddau i’ch helpu gyda’ch ymweliad neu i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth yma: Adnoddau Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar sut i archebu ymweliad a gweld pa weithdai sydd ar gael yma: Sut i Archebu

 Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Underground tours are available as usual with some restrictions. Up to 132 pupils & staff can visit per day Monday –Friday between 09.45 and 3pm. Groups of 6 (which includes teacher/supervisor) go underground with a Miner Guide at one time. Descents underground take place every 15 minutes.  Visits to the surface are available for all visitors, which include the historic mine buildings, King Coal and the Pithead Baths. For further information visit www.museum.wales/bigpit/learning  To book a school visit, ring 02920 573650.