e-Llyfr

Cymru Oes yr Haearn: Bywyd Bob Dydd y Celtiaid

Delwedd o dudalen sampl o bennod ‘Rhyfelwyr’ yn adnodd e-lyfr Duwiau a Rhyfel.

 

Bydd yr adnoddau rhyngweithiol hyn yn eich galluogi i archwilio byd y Celtiaid yng Nghymru Oes yr Haearn. Mae’r ddau adnodd wedi’u rhannu yn ddau e-lyfr: Bywyd Bob Dydd y Celtiaid a Duwiau a Rhyfel

Mae’r llyfrau yn llawn lluniau o wrthrychau Oes yr Haearn a chwisiau rhyngweithiol i’ch helpu i ddysgu mwy am fywyd y Celtiaid.

Bywyd Bob Dydd y Celtiaid

Mae’r e-lyfr hwn yn edrych ar y themâu a’r pynciau hyn:

Pwy oedd y Celtiaid a sut ydyn ni’n gwybod am Oes yr Haearn?

Bryngaerau a thai Oes yr Haearn

Dillad a gemwaith Oes yr Haearn

Bwyd Oes yr Haearn

Bywyd yn Oes yr Haearn.

Cliciwch yma i weld fersiwn ar-lein o’r e-lyfr. Gallwch ei ddarllen ar unrhyw ddyfais.

Cliciwch yma i lawrlwytho’r fersiwn iBook i declynnau Apple.

 

Duwiau a Rhyfel

Mae’r e-lyfr hwn yn edrych ar y themâu a’r pynciau hyn:

Celf Oes yr Haearn

Crefydd Oes yr Haearn

Llwythau Celtaidd Cymru yn Oes yr Haearn

Rhyfelwyr Celtaidd

Goresgyniad y Rhufeiniaid

Cliciwch yma i weld fersiwn ar-lein o’r e-lyfr. Gallwch ei ddarllen ar unrhyw ddyfais.

Cliciwch yma i lawrlwytho’r fersiwn iBook i declynnau Apple.

 

Dyma bigion o’r llyfrau i roi syniad i chi o’r cynnwys.

Pwy oedd y Celtiaid?

Roedd y Celtiaid yn rhannu crefydd, iaith a chelfyddyd debyg. Roedden nhw’n byw yn Oes yr Haearn, mewn llefydd fel Prydain, Iwerddon, Ffrainc, yr Almaen a Sbaen. Ein henw ni arnyn nhw yw’r Celtiaid. Roedden nhw’n cynnwys llawer o wahanol grwpiau. 

Enw’r Rhufeiniaid ar y bobl Geltaidd ym Mhrydain oedd Pretani. Ystyr hyn yw pobl wediu paentio. Brythoniaid yw’r enw Cymraeg.

Cliciwch yma i weld y bennod berthnasol yn yr e-lyfr.

Sut dai oedd gan y Celtiaid?

Tai crwn to gwellt oedden nhw.

Byddai’r waliau’n cael eu gwneud o wahanol ddeunyddiau. Plethwaith a dwb oedd y defnydd mwyaf poblogaidd. Ffens bren yw plethwaith a cymysgedd o glai a baw anifeiliaid yw dwb! Roedd gan rai tai waliau cerrig. Roedd gan rai waliau trwchus o glai.

Cliciwch yma i weld y bennod berthnasol yn yr e-lyfr.

Beth oedd y Celtiaid yn ei wisgo?

Anaml iawn mae archaeolegwyr yn canfod dillad o Oes yr Haearn. Byddai dillad yn cael eu gwneud o wlân, lliain, crwyn anifeiliaid a lledr. 

Roedd broets yn addurn cyffredin. Byddai’n pinio dillad gyda’i gilydd ac yn dangos i bobl pwy oeddech chi. 

Roedd gleiniau gwydr yn cael eu defnyddio i wneud mwclis, breichledau neu swyndlysau. 

Byddai pobl bwysig yn gwisgo coler neu fwclis efydd wedi'i addurno o'r enw torch. Roedd torchau yng Nghymru yn cael eu gwneud o efydd.

Cliciwch yma i weld y bennod berthnasol yn yr e-lyfr.

Beth oedd y Celtiaid yn ei fwyta?

Yr enw ar blanhigion mae ffermwyr yn eu tyfu yw cnydau. Gwenith oedd un o gnydau pwysicaf Oes yr Haearn. Mae’n gnwd defnyddiol iawn. Gall y grawn gael ei falu’n flawd i wneud bara

Dau o gnydau pwysig Oes yr Haearn oedd ceirch a barlys. Roedd ceirch yn cael eu defnyddio i wneud uwd a bara ceirch. Roedd barlys yn cael ei ddefnyddio i wneud cwrw

O ffermydd oedd y rhan fwyaf o fwyd Oes yr Haearn yn dod, ond roedd bwyd gwyllt ar gael hefyd. Roedd rhain yn cynnwys madarch, danadl poethion, cnau, aeron ac afalau surion

Cig anifeiliaid fferm oedd y cig mwyaf cyffredin yn Oes yr Haearn. Roedd pobl yn bwyta cig gwartheg, defaid, geifr a moch. Y baedd a’r carw oedd y prif anifeiliaid gwyllt oedd yn cael eu hela i’w bwyta.

Cliciwch yma i weld y bennod berthnasol yn yr e-lyfr.

Beth oedd gwaith y Celtiaid?

Ffermwyr oedd y rhan fwyaf o bobl Oes yr Haearn ond bydden nhw hefyd yn gwneud crefftau cyffredin. Roedd rhain yn cynnwys gwaith coed, a gwneud basgedi, dillad a photiau clai

Gof yw’r enw ar rywun sy’n gwneud pethau o haearn. Yn Oes yr Haearn roedd y gof yn bwysig iawn.

Cliciwch yma i weld y bennod berthnasol yn yr e-lyfr.

Sut oedd celf y Celtiaid yn edrych?

Mae troell yn symbol cyffredin iawn mewn celf Geltaidd. Mae’r trisgell – sef tri troell yn un – i’w weld ar lawer o wrthrychau o Oes yr Haearn. 

Dydyn ni ddim yn gwybod beth yw ystyr y trisgell. Efallai ei fod yn sefyll am:

Enedigaeth, Bywyd a Marwolaeth

Y Byw, y Marw, ar Duwiau

Daear, Tân, Dŵr

Tri Duw

Cliciwch yma i weld y bennod berthnasol yn yr e-lyfr.

Pwy oedd y derwyddon?

Roedd y derwyddon yn bobl bwysig iawn – fersiwn Oes yr Haearn o offeiriad, doctor, barnwr a gwleidydd. Roedd pobl yn credu y gallai’r derwyddon siarad â duwiau ac ysbrydion. Dywedodd y Rhufeiniaid fod y derwyddon yn aberthu anifeiliaid a dynion mewn coedwigoedd sanctaidd. Roedd y Rhufeiniaid yn credu bod y derwyddon yn beryglus, ac yn bwysig i drefnu rhyfel.

Cliciwch yma i weld y bennod berthnasol yn yr e-lyfr.

Pa lwythau Celtaidd oedd yn byw yng Nghymru?

Y Rhufeiniaid ysgrifennodd y dystiolaeth am lwythau Prydain. Y tri prif awdur oedd Tacitus, Ptolemy a Cassius Dio. Dim ond am lwythau diwedd oes yr Haearn mae nhw’n siarad. 

Y prif lwythau y gwyddon ni amdanyn nhw yw’r Deceangli, y Demetae, yr Ordoficiaid a’r Silwriaid. Mae dau lwyth llai hefyd, sef y Gangani a’r Octapitae.

Cliciwch yma i weld y bennod berthnasol yn yr e-lyfr.

Sut oedd rhyfelwyr Celtaidd yn ymladd?

Roedd rhyfelwyr yn gwarchod pobol eu llwyth. Cyn dyfodiad y Rhufeiniaid bydden nhw’n ymladd llwythau eraill. 

Roedd rhyfelwyr yn bwysig iawn ym Mhrydain Oes yr Haearn. Roedd eu hoffer yn werthfawr, a llawer o amser yn cael ei roi i addurno’r offer. 

Byddai rhai rhyfelwyr yn gyrru ar draws maes y gad yn gwneud llawer o sŵn i ddychryn y gelyn ac yn taflu gwaywffyn.

Cliciwch yma i weld y bennod berthnasol yn yr e-lyfr.

Faint gymerodd hi i’r Rhufeiniad goncro Cymru?

Dechreuodd y Rhufeiniaid oresgyn Prydain yn y flwyddyn OC 43. Dechreuodd goresgyniad Cymru yn OC 47. Wnaeth llwythau Cymru ddim ildio’n hawdd. Fe gymerodd hi tan OC 78 i’r Rhufeiniad oresgyn Cymru gyfan. 

Mae Cymru wedi bod yn lle anodd ei oresgyn erioed. Pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid, roedd mwy na rhyfelwyr ffyrnig i ddelio â nhw. 

Mae Cymru’n llawn mynyddoedd. Roedd hyn yn ei gwneud hi’n anodd i’r Rhufeiniaid deithio’n gyflym drwy Gymru. 

Defnyddiai rhyfelwyr Cymru ddulliau ymladd guerrilla. Yn lle un brwydr fawr, bydden nhw’n trefnu sawl ymosodiad bach. Yn aml bydden nhw’n ymosod ac yn dianc yn gyflym i ddiogelwch y mynyddoedd a’r coedwigoedd.

Cliciwch yma i weld y bennod berthnasol yn yr e-lyfr.

Eisiau gwybod mwy?

Sampl yn unig o’r wybodaeth a ddarperir yn y llyfr yw hyn. I ddysgu mwy am Oes yr Haearn ac archwilio casgliad Oes yr Haearn Amgueddfa Cymru, cliciwch ar y dolenni ar dop y dudalen.

Cliciwch yma i ddarllen erthygl am y Celtiaid wedi’i hysgrifennu gan yr adran Archaeoleg.

Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.